Tudalen Gymraeg
Agorwyd Carreg Law yn 2014 gan Edward Friend.
Rydym yn darparu gwasanaethau cyfreithiol ar hyd a lled y wlad, a gallwch ymweld â ni yn ein swyddfa yn Llandeilo neu yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin.
Ymfalchïwn ein bod yn dîm dyfeisgar a chydweithredol, a cheisiwn bod amser i ddatrys problemau yn y modd mwyaf effeithiol i chi.
Teimlwn ei fod yn hanfodol ein bod yn darparu gwasanaethau o’r safon uchaf i’n clieintiaid, mewn ffordd gyfeillgar a diymhongar ac rydym yn hapus i gynnig ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'n bwysig i ni fod ein clientiaid yn teimlo'n gyfforddus yn trafod materion cyfreithiol gyda ni ac felly, rydym yn hapus i drafod materion cyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae ein cyfreithwyr Carys Dyer a Gwen Hope yn rhugl yn y Gymraeg ac yn hapus i drafod materion cyfreithiol yn ddwyieithog.
Mae Edward Friend a Freddie Govier Wright yn hapus i siarad drwy y Gymraeg yn ogystal, ond plis nodwch byddant yn gohebu yn Saesneg a bydd yr ohebiaeth gyfreithiol y byddant yn danfon i chi yn Saesneg.